P-05-909 Hyrwyddo'r defnydd o iaith arwyddion Makaton ym mhob ysgol yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Isabella Evans, ar ôl casglu 4,914 o lofnodion ar-lein a 110 ar bapur, sef cyfanswm o 5,024 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried defnyddio iaith arwyddion Makaton ym mhob ysgol yng Nghymru.
Rydw i'n chwaer 13 mlwydd oed i fachgen bach sydd â Syndrom Down, sy'n defnyddio iaith Makaton yn bennaf. Rwyf wedi dysgu iaith arwyddion Makaton er mwyn cyfathrebu â fy mrawd, ac oherwydd hyn, penderfynais sefydlu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i helpu pobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg i ddysgu. Roedd yn syndod i mi weld cymaint o alw gan bobl sydd am ddysgu Makaton er mwyn cyfathrebu â ffrindiau ac aelodau teulu sydd ag anawsterau dysgu.
Credaf y dylai gael ei gynnwys ym mhob ysgol yng Nghymru ochr yn ochr ag addysgu bob dydd er mwyn caniatáu i bob plentyn ddysgu i gyfathrebu drwy'r dull hwn.
Rwy'n angerddol dros gyflawni hyn ac yn credu ei fod yn hawl sylfaenol i bob plentyn yng Nghymru ddysgu Makaton er mwyn chwalu rhwystrau a chamsyniadau, a sicrhau cynhwysiant gwirioneddol yng Nghymru.
Gwybodaeth ychwanegol:
Mae llawer o ymchwil wedi cael ei wneud i brofi pa mor effeithiol yw defnyddio symbolau ac arwyddion er mwyn cynorthwyo pobl i ddatblygu sgiliau iaith a llythrennedd. Mae canfyddiadau ymchwil presennol yn cefnogi'r defnydd o iaith arwyddion gydag oedolion a phlant sydd ag anawsterau deallusol a chyfathrebu.
Mae astudiaeth hefyd sy'n archwilio'r graddau y mae dysgu iaith arwyddion ochr yn ochr ag iaith dramor yn ystod gwersi ieithoedd tramor modern yn helpu i gefnogi'r eirfa ar lafar sy'n aros yn y cof.
Mae llawer o bapurau ymchwil wedi'u cyhoeddi sy'n cefnogi defnyddio Makaton, gan gynnwys:-
- Birket, E.M. (1984)
- Colema, A. (2014)
- Cornforth, A.R.T., Johnson, K. Walker, M. (1974)
- Ford, J. (2006)
- Francis. (2000)
- Grove, N. (1980)
- Powell, G. (1999)
- Reed, A. (2014)
- Sheehy, K. Duffy, H. (2009)
- Volpato, D. ,Orton, D. and Blackburn, D. (1986)
- Walker, M. Armfield, A. (1981)
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Pen-y-bont ar Ogwr
· Gorllewin De Cymru